Skip to main content
  • Secrets of Cwm Idwal / Cyfrinachau Cwm Idwal
1 of 3

Secrets of Cwm Idwal / Cyfrinachau Cwm Idwal

Tue 7 Jul 2026 10:00 - 15:30 Canolfan Cefnfaes parking lot, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD

Secrets of Cwm Idwal / Cyfrinachau Cwm Idwal

Tue 7 Jul 2026 10:00 - 15:30 Canolfan Cefnfaes parking lot, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD

Sgroliwch am y Gymraeg 👇

A leisurely circular walk, taking in geology, deep time, land use, Welsh place names, plant life, and myth & legend.

Cwm Idwal, or "The Valley of Idwal", is the jewel in the crown of Eryri National Park. It was designated as Wales’s first national Nature Reserve in 1954 on account of its geological interest and rare alpine flora. This is your chance to learn more about these geological features and look at some of the plants.

Cwm Idwal has always been a deeply meaningful place for local people, and I’ll be telling the stories of the many different people who came here, what they were doing, and how the landscape changed along with them. This awe-inspiring day of walking and learning in Cwm Idwal will definitely be one to remember.

This is a bilingual event but if you don't speak Welsh, don't worry - you'll still learn a couple of words and have a lovely time! Os ydych chi'n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau 😊

Location and timings

Venue: Canolfan Cefnfaes parking lot, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD
Date: Tuesday 7th July
Time: 10:00-15:30

We’ll meet in the upper parking lot of Canolfan Cefnfaes. A minibus will take us to and from Cwm Idwal Visitor Centre (at no cost to you). The upper parking lot is located here: https://w3w.co/helped.union.gourmet.

Getting there

Bethesda is served by several buses: learn more here. There’s free parking at the meeting point.

What to bring

The weather in North Wales can be quite variable. For your comfort and safety, we ask you to bring the following items:

  • Sturdy, comfortable waterproof footwear with good traction and ankle support
  • Waterproof jacket and trousers (essential even if the forecast is good)
  • Warm fleece or jumper (not cotton)
  • Warm hat and gloves
  • Jacket or windbreaker (depending on the weather)
  • Sit mat for seated outdoor activities
  • Small backpack
  • Packed lunch and snacks - we can eat on the hill!
  • Water and snacks (if these aren’t in reusable packaging, please bring a bag for your rubbish)
  • Thermos with a warm drink (if it's cold)
  • Any medication that you require
  • Walking poles if you want extra support on uneven ground

Ability level

Ability to walk three miles on unpaved paths that include some rocky steps.

Event leader: Mia Walker

Mia is a Mountain Leader, NatureWell Facilitator, educator, and storyteller. She guides people in the hills of Eryri (Snowdonia), runs nature connection and storytelling workshops, and provides training to other outdoor leaders. Mia has been learning Welsh since 2022 and is currently studying at Lefel Canolradd (Intermediate Level).

Cancellation policy

Because this event is publicly funded and places are limited, a strict cancellation policy applies. This ensures that public money is spent responsibly and that the people delivering it earn a fair wage.

  • If you cancel more than 14 days before the event start time: You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If you cancel up to 14 days before event start time: You will not receive a refund unless there is a serious problem, i.e., serious illness, major injury, bereavement, transit strikes, jury duty, or military duty. You'll need to provide appropriate documentation in order to receive the refund. You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If we have to cancel the event due to circumstances outside of our control, you will be offered an alternative date or a Credit Voucher that's good for 12 months.

We strongly recommend taking out Personal Accident, Personal Injury and Cancellation insurance so that you're protected in case you can't make it due to unforeseen circumstances. Cancellations can only be made by email.

Cyfrinachau Cwm Idwal

Taith gerdded gylchol hamddenol, yn ymdrin â daeareg, amser dwfn, defnydd tir, enwau lleoedd Cymraeg, planhigion, a chwedlau.

Mae Cwm Idwal, neu “Dyffryn Idwal”, yn berl yng nghoron Parc Cenedlaethol Eryri. Fe’i ddynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru ym 1954 oherwydd ei nodweddion daearegol a’i fflora alpaidd prin. Dyma eich cyfle i ddysgu mwy am y nodweddion daearegol yma, ac edrych ar rai o’r planhigion bendigedig.

Mae Cwm Idwal o hyd wedi bod yn lle o ystyr dwfn i bobl leol, a byddaf yn adrodd straeon y nifer o wahanol bobl a ddaeth yma, beth oeddent yn ei wneud, a sut newidiodd y dirwedd ynghyd â nhw. Bydd y diwrnod ysbrydoledig hwn o gerdded a dysgu yng Nghwm Idwal yn sicr yn un i’w gofio.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd! Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau.

Lleoliad a amseroedd

Lleoliad: Maes parcio Canolfan Cefnfaes, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3AD
Dyddiad: Dydd Mawrth 7fed o Orffennaf
Amser: 10:00–15:30

Byddwn yn cyfarfod ym maes parcio uchaf Canolfan Cefnfaes. Bydd bws mini yn ein cludo i ac o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Idwal (heb gost i chi). Mae’r maes parcio uchaf wedi’i leoli yma: https://w3w.co/helped.union.gourmet.

Sut i gyrraedd yno

Mae Bethesda yn cael ei wasanaethu gan sawl bws: dysgwch fwy yma. Mae parcio am ddim ar gael yn y man cyfarfod.

Beth i ddod â chi

Gall y tywydd yng Ngogledd Cymru fod yn eithaf amrywiol. Er eich cysur a’ch diogelwch, gofynnwn i chi ddod â’r eitemau canlynol:

  • Esgidiau cerdded cadarn, cyfforddus a diddos gyda gafael da a chefnogaeth i’r ffêr
  • Siaced a throwsus dal dŵr (hanfodol hyd yn oed os yw’r rhagolwg tywydd yn braf)
  • Siaced neu Siwmper cynnes (nid cotwm)
  • Het a menig cynnes
  • Siaced ysgafn neu dorwr gwynt (yn dibynnu ar y tywydd)
  • Mat eistedd ar gyfer gweithgareddau eistedd yn yr awyr agored
  • Bag cerdded bach
  • Pecyn cinio a byrbrydau – gallwn fwyta ar y bryn!
  • Dŵr a byrbrydau (os nad ydynt mewn pecynnau ailddefnyddiadwy, dewch â bag ar gyfer eich sbwriel)
  • Fflasg gyda diod cynnes (os yw’n oer)
  • Unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch
  • Polion cerdded os ydych am gael cefnogaeth ychwanegol ar dir anwastad

Lefel gallu

Y gallu i gerdded tua thair milltir ar lwybrau heb balmentydd sy’n cynnwys rhai grisiau creigiog.

Arweinydd y digwyddiad: Mia Walker

Mae Mia yn Arweinydd Mynydd, Cyflwynydd NatureWell, addysgwr ac cyfarwydd. Mae hi’n arwain pobl drwy’r bryniau a’r mynyddoedd yn Eryri, yn cynnal gweithdai cysylltu â natur ac adrodd straeon, ac yn darparu hyfforddiant i arweinwyr awyr agored eraill. Mae Mia wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2022 ac ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar Lefel Canolradd.

Polisi canslo

Gan fod y digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n gyhoeddus a bod lleoedd yn gyfyngedig, mae polisi canslo caeth yn berthnasol. Mae hyn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gyfrifol a bod y bobl sy'n ei gyflwyno yn ennill cyflog teg.

  • Os byddwch yn canslo mwy na 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os byddwch yn canslo hyd at 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad oni bai bod problem ddifrifol, h.y., salwch difrifol, anaf mawr, profedigaeth, streiciau trafnidiaeth, dyletswydd rheithgor, neu ddyletswydd filwrol. Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth briodol er mwyn derbyn yr ad-daliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os bydd rhaid i ni ganslo'r digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, cynigir dyddiad arall neu Daleb Credyd i chi sy'n ddilys am 12 mis.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd Yswiriant Damweiniau Personol, Yswiriant Anaf Personol ac Yswiriant Canslo fel eich bod wedi'ch amddiffyn rhag ofn na allwch ddod oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Dim ond drwy e-bost y gellir canslo.

Sponsors / Noddwyr

Our lovely Wales Nature Week events are funded by Welsh Government, through WCVA, Partneriaeth Natur Leol Eryri Local Nature Partnership, Parc Cenedlaethol Eryri National Park and Y Bartneriaeth Awyr Agored/The Outdoor Partnership.

Mae ein digwyddiadau hyfryd Wythnos Natur Cymru wedi'i gyllido gan Llywodraeth Cymru, trwy WCVA, Partneriaeth Natur Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri National Park, a'r Bartneriaeth Awyr Agored /The Outdoor Partnership.

Wales Nature Week sponsor logos

Location

Canolfan Cefnfaes parking lot, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD