Skip to main content
  • Nature Connection & Welsh Folk Tales / Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru
1 of 3

Nature Connection & Welsh Folk Tales / Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru

Thu 9 Jul 2026 10:00 - 16:00 Pen y Pass Warden Centre, LL55 4NY

Nature Connection & Welsh Folk Tales / Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru

Thu 9 Jul 2026 10:00 - 16:00 Pen y Pass Warden Centre, LL55 4NY

Sgroliwch am y Gymraeg 👇

A leisurely walk from Pen y Pass to Glaslyn and back, with plenty of time for local folk tales and simple nature connection activities.

Come and hear tales of King Arthur and Excalibur, giant who’s buried on Yr Wyddfa, and the fairies who guided local miners. We’ll also discuss how these traditional tales can help us reflect on our own relationship with the land, and we’ll enjoy some peaceful time connecting with nature. It’ll be a relaxing and restorative day with plenty of breaks to enjoy this stunning valley in the heart of Eryri. This walk is not suitable for dogs, sorry.

This is a bilingual event but if you don't speak Welsh, don't worry - you'll still learn a couple of words and have a lovely time! Os ydych chi'n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau 😊

Location and timings

Venue: Pen y Pass Warden Centre, LL55 4NY (What3Words: ///tooth.drooling.pixies)
Date: Thursday 9th July
Time: 10:00-16:00

Getting there

There is no parking at the meeting point. However, Pen y Pass is served by several buses: learn more here. You’ll need to park your car in Llanberis or at the Nant Peris Park & Ride. Your best bet is to catch a Sherpa bus from the Nant Peris Park & Ride at 09:45.

What to bring

The weather in North Wales can be quite variable. For your comfort and safety, we ask you to bring the following items:

  • Sturdy, comfortable waterproof footwear with good traction and ankle support
  • Waterproof jacket and trousers (essential even if the forecast is good)
  • Warm fleece or jumper (not cotton)
  • Warm hat and gloves
  • Jacket or windbreaker (depending on the weather)
  • Sit mat for seated outdoor activities
  • Small backpack
  • Packed lunch and snacks - we can eat on the hill!
  • Water and snacks (if these aren’t in reusable packaging, please bring a bag for your rubbish)
  • Thermos with a warm drink (if it's cold)
  • Any medication that you require
  • Walking poles if you want extra support on uneven ground

Ability level

Ability to walk seven miles on unpaved paths that include some rocky steps.

Event leader: Mia Walker

Mia is a Mountain Leader, NatureWell Facilitator, educator, and storyteller. She guides people in the hills of Eryri (Snowdonia), runs nature connection and storytelling workshops, and provides training to other outdoor leaders. Mia has been learning Welsh since 2022 and is currently studying at Lefel Canolradd (Intermediate Level).

Cancellation policy

Because this event is publicly funded and places are limited, a strict cancellation policy applies. This ensures that public money is spent responsibly and that the people delivering it earn a fair wage.

  • If you cancel more than 14 days before the event start time: You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If you cancel up to 14 days before event start time: You will not receive a refund unless there is a serious problem, i.e., serious illness, major injury, bereavement, transit strikes, jury duty, or military duty. You'll need to provide appropriate documentation in order to receive the refund. You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If we have to cancel the event due to circumstances outside of our control, you will be offered an alternative date or a Credit Voucher that's good for 12 months.

We strongly recommend taking out Personal Accident, Personal Injury, and Cancellation insurance so that you're protected in case you can't make it due to unforeseen circumstances. Cancellations can only be made by email.

Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru

Taith gerdded hamddenol o Ben y Pas i Glaslyn ac yn ôl, gyda digon o amser ar gyfer chwedlau lleol a gweithgareddau syml i gysylltu â natur.

Dewch i glywed straeon am y Brenin Arthur ac Excalibur, y cawr sydd wedi’i gladdu ar Yr Wyddfa, a’r tylwyth teg a fu’n tywys glowyr lleol. Byddwn hefyd yn trafod sut y gall y chwedlau traddodiadol hyn ein helpu i fyfyrio ar ein perthynas ein hunain â’r tir, a byddwn yn mwynhau amser heddychlon yn cysylltu â natur. Bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac adfywiol gyda digon o seibiannau i fwynhau’r cwm godidog hwn yng nghanol Eryri. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer cŵn, mae’n ddrwg gennym.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd! Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau 😊

Lleoliad a amseroedd

Lleoliad: Canolfan Wardeniaid Pen y Pass, LL55 4NY (What3Words: ///tooth.drooling.pixies)
Dyddiad: Dydd Iau, 9fed o Orffennaf
Amser: 10:00–16:00

Sut i gyrraedd yno

Nid oes parcio yn y man cyfarfod. Fodd bynnag, mae sawl bws yn gwasanaethu Pen y Pas: dysgwch mwy yma. Bydd angen i chi barcio eich car yn Llanberis neu ym Maes Parcio a Theithio Nant Peris. Y dewis gorau yw dal bws Sherpa o Faes Parcio a Theithio Nant Peris am 09:45.

Beth i ddod â chi

Gall y tywydd yng Ngogledd Cymru fod yn eithaf amrywiol. Er eich cysur a’ch diogelwch, gofynnwn i chi ddod â’r eitemau canlynol:

  • Esgidiau cerdded cadarn, cyfforddus a diddos gyda gafael da a chefnogaeth i’r ffêr
  • Siaced a throwsus dal dŵr (hanfodol hyd yn oed os yw’r rhagolwg tywydd yn braf)
  • Siaced neu Siwmper cynnes (nid cotwm)
  • Het a menig cynnes
  • Siaced ysgafn neu dorwr gwynt (yn dibynnu ar y tywydd)
  • Mat eistedd ar gyfer gweithgareddau eistedd yn yr awyr agored
  • Bag cerdded bach
  • Pecyn cinio a byrbrydau – gallwn fwyta ar y bryn!
  • Dŵr a byrbrydau (os nad ydynt mewn pecynnau ailddefnyddiadwy, dewch â bag ar gyfer eich sbwriel)
  • Fflasg gyda diod cynnes (os yw’n oer)
  • Unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch
  • Polion cerdded os ydych am gael cefnogaeth ychwanegol ar dir anwastad

Lefel gallu

Y gallu i gerdded saith milltir ar lwybrau heb balmentydd sy’n cynnwys rhywfaint o dir eithaf anwastad.

Arweinydd y digwyddiad: Mia Walker

Mae Mia yn Arweinydd Mynydd, Cyflwynydd NatureWell, addysgwr ac cyfarwydd. Mae hi’n arwain pobl drwy’r bryniau a’r mynyddoedd yn Eryri, yn cynnal gweithdai cysylltu â natur ac adrodd straeon, ac yn darparu hyfforddiant i arweinwyr awyr agored eraill. Mae Mia wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2022 ac ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar Lefel Canolradd.

Polisi canslo

Gan fod y digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n gyhoeddus a bod lleoedd yn gyfyngedig, mae polisi canslo caeth yn berthnasol. Mae hyn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gyfrifol a bod y bobl sy'n ei gyflwyno yn ennill cyflog teg.

  • Os byddwch yn canslo mwy na 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os byddwch yn canslo hyd at 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad oni bai bod problem ddifrifol, h.y., salwch difrifol, anaf mawr, profedigaeth, streiciau trafnidiaeth, dyletswydd rheithgor, neu ddyletswydd filwrol. Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth briodol er mwyn derbyn yr ad-daliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os bydd rhaid i ni ganslo'r digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, cynigir dyddiad arall neu Daleb Credyd i chi sy'n ddilys am 12 mis.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd Yswiriant Damweiniau Personol, Yswiriant Anaf Personol ac Yswiriant Canslo fel eich bod wedi'ch amddiffyn rhag ofn na allwch ddod oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Dim ond drwy e-bost y gellir canslo.

Sponsors / Noddwyr

Our lovely Wales Nature Week events are funded by Welsh Government, through WCVA, Partneriaeth Natur Leol Eryri Local Nature Partnership, Parc Cenedlaethol Eryri National Park and Y Bartneriaeth Awyr Agored/The Outdoor Partnership.

Mae ein digwyddiadau hyfryd Wythnos Natur Cymru wedi'i gyllido gan Llywodraeth Cymru, trwy WCVA, Partneriaeth Natur Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri National Park, a'r Bartneriaeth Awyr Agored /The Outdoor Partnership.

Wales Nature Week sponsor logos

Location

Pen y Pass Warden Centre, LL55 4NY