Skip to main content
  • Mapping Your Eryri Journey / Mapio Eich Taith Drwy Eryri
1 of 3

Mapping Your Eryri Journey / Mapio Eich Taith Drwy Eryri

Sat 11 Jul 2026 10:00 - 16:00 Canolfan Cefnfaes, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD

Mapping Your Eryri Journey / Mapio Eich Taith Drwy Eryri

Sat 11 Jul 2026 10:00 - 16:00 Canolfan Cefnfaes, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD

Sgroliwch am y Gymraeg 👇

A fun and creative day for folks who love being outdoors, get excited about maps, and want to play with the colours and shapes of the Eryri landscape.

We’ll share our memories of personally meaningful routes we’ve walked in Eryri. We’ll reflect on what these routes mean to us on a deeper level, how they’ve enhanced our lives, and how they connect us with nature and the land. We’ll also take a short walk near the venue to gather inspiration and materials from the landscape. Then, you’ll have the chance to create a map of a journey that’s dear to your heart, whether that’s a literal route you’ve hiked or a more personal journey through your memories of the landscape. You’ll use your found objects alongside a variety of materials like paper, pencils, markers, watercolours and natural glue to create something that’s uniquely yours.

No prior experience is needed for this fun and relaxed day, and we provide all the materials. Just bring yourself, your packed lunch, and a sense of playfulness!

This is a bilingual event but if you don't speak Welsh, don't worry - you'll still learn a couple of words and have a lovely time! Os ydych chi'n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau 😊

Location and timings

Venue: Canolfan Cefnfaes, Upper Level, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD (What3Words: /// helped.union.gourmet)
Date: Saturday 11th July
Time: 10:00-16:00

We’ll meet in the Community Room at Canolfan Cefnfaes. This is accessed via the entrance on the upper level. Please do not use the lower entrance on Victoria Place (which is where Google will guide you).

Getting there

Bethesda is served by several buses: learn more here. There’s free parking in the upper parking lot at Canolfan Cefnfaes.

What to bring

For your comfort and safety, we ask you to bring the following items:

  • Comfortable footwear and waterproofs for our walk
  • Sit mat
  • Small backpack
  • Packed lunch and snacks
  • Any medication that you require

Ability level

Ability to walk up to a mile on unpaved paths.

Event leader: Mia Walker

Mia is a Mountain Leader, NatureWell Facilitator, educator, and storyteller. She guides people in the hills of Eryri (Snowdonia), runs nature connection and storytelling workshops, and provides training to other outdoor leaders. Mia has been learning Welsh since 2022 and is currently studying at Lefel Canolradd (Intermediate Level).

Cancellation policy

Because this event is publicly funded and places are limited, a strict cancellation policy applies. This ensures that public money is spent responsibly and that the people delivering it earn a fair wage.

  • If you cancel more than 14 days before the event start time: You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If you cancel up to 14 days before event start time: You will not receive a refund unless there is a serious problem, i.e., serious illness, major injury, bereavement, transit strikes, jury duty, or military duty. You'll need to provide appropriate documentation in order to receive the refund. You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If we have to cancel the event due to circumstances outside of our control, you will be offered an alternative date or a Credit Voucher that's good for 12 months.

We strongly recommend taking out Personal Accident, Personal Injury, and Cancellation insurance so that you're protected in case you can't make it due to unforeseen circumstances. Cancellations can only be made by email.

Mapio Eich Taith Drwy Eryri

Diwrnod hwyl a chreadigol i bobl sy’n caru’r awyr agored, yn hoffi mapiau, ac eisiau chwarae gyda lliwiau a siapiau tirwedd Eryri.

Byddwn yn rhannu ein hatgofion o lwybrau ystyrlon rydym wedi’u cerdded yn Eryri. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn mae’r llwybrau hyn yn ei olygu i ni ar lefel ddyfnach, sut maent wedi cyfoethogi ein bywydau, a sut maent yn ein cysylltu â natur a’r tir o’n gwmpas. Byddwn hefyd yn mynd am dro byr ger y lleoliad i gasglu ysbrydoliaeth a deunyddiau o’r dirwedd. Yna, cewch gyfle i greu map o daith sy’n agos at eich calon, boed hynny’n lwybr gwirioneddol rydych wedi’i gerdded neu’n daith fwy personol drwy eich atgofion o’r dirwedd. Byddwch yn defnyddio’r gwrthrychau rydych wedi’u casglu ynghyd ag amrywiaeth o ddeunyddiau fel papur, pensiliau, marcwyr, dyfrlliwiau a glud naturiol i greu rhywbeth cwbl unigryw i chi.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ar gyfer y diwrnod hwyl ac ymlaciol hwn, a byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau. Dewch â chi eich hun, eich pecyn bwyd, ac ysbryd chwareus!

Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd! Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch hefyd yn ei fwynhau 😊

Lleoliad a amseroedd

Lleoliad: Canolfan Cefnfaes, Lefel Uchaf, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3AD (What3Words: ///helped.union.gourmet)
Dyddiad: Dydd Sadwrn, 11eg o Orffennaf
Amser: 10:00–16:00

Byddwn yn cyfarfod yn Ystafell Gymunedol Canolfan Cefnfaes. Gellir cael mynediad iddi drwy’r fynedfa ar y lefel uchaf. Peidiwch â defnyddio’r fynedfa isaf ar Victoria Place (sef y man y bydd Google yn eich tywys ato).

Sut i gyrraedd yno

Mae sawl bws yn gwasanaethu Bethesda: dysgwch mwy yma. Mae parcio am ddim yn y maes parcio uchaf yng Nghanolfan Cefnfaes.

Beth i ddod â chi

Er mwyn eich cysur a’ch diogelwch, gofynnwn i chi ddod â’r eitemau canlynol:

  • Esgidiau cyfforddus a dillad dal dŵr ar gyfer ein taith gerdded
  • Mat eistedd
  • Bag cerdded bach
  • Pecyn bwyd a byrbrydau
  • Unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch

Lefel gallu

Y gallu i gerdded hyd at filltir ar lwybrau heb eu palmantu.

Arweinydd y digwyddiad: Mia Walker

Mae Mia yn Arweinydd Mynydd, Cyflwynydd NatureWell, addysgwr ac cyfarwydd. Mae hi’n arwain pobl drwy’r bryniau a’r mynyddoedd yn Eryri, yn cynnal gweithdai cysylltu â natur ac adrodd straeon, ac yn darparu hyfforddiant i arweinwyr awyr agored eraill. Mae Mia wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2022 ac ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar Lefel Canolradd.

Polisi canslo

Gan fod y digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n gyhoeddus a bod lleoedd yn gyfyngedig, mae polisi canslo caeth yn berthnasol. Mae hyn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gyfrifol a bod y bobl sy'n ei gyflwyno yn ennill cyflog teg.

  • Os byddwch yn canslo mwy na 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os byddwch yn canslo hyd at 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad oni bai bod problem ddifrifol, h.y., salwch difrifol, anaf mawr, profedigaeth, streiciau trafnidiaeth, dyletswydd rheithgor, neu ddyletswydd filwrol. Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth briodol er mwyn derbyn yr ad-daliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os bydd rhaid i ni ganslo'r digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, cynigir dyddiad arall neu Daleb Credyd i chi sy'n ddilys am 12 mis.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd Yswiriant Damweiniau Personol, Yswiriant Anaf Personol ac Yswiriant Canslo fel eich bod wedi'ch amddiffyn rhag ofn na allwch ddod oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Dim ond drwy e-bost y gellir canslo.

Sponsors / Noddwyr

Our lovely Wales Nature Week events are funded by Welsh Government, through WCVA, Partneriaeth Natur Leol Eryri Local Nature Partnership, Parc Cenedlaethol Eryri National Park and Y Bartneriaeth Awyr Agored/The Outdoor Partnership.

Mae ein digwyddiadau hyfryd Wythnos Natur Cymru wedi'i gyllido gan Llywodraeth Cymru, trwy WCVA, Partneriaeth Natur Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri National Park, a'r Bartneriaeth Awyr Agored /The Outdoor Partnership.

Wales Nature Week sponsor logos

Location

Canolfan Cefnfaes, Coetmor Road, Bethesda, LL57 3AD